P-05-1118 Gadewch i rieni plant dan 1 oed ffurfio swigen gefnogaeth o dan gyfyngiadau Covid Haen 4 newydd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Megan Chhabra, ar ôl casglu cyfanswm o 8,518 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae Lloegr wedi cyflwyno rheolau i ganiatáu i rieni plant dan 1 oed ffurfio swigen gefnogaeth gydag aelwyd ychwanegol, a hynny ym mhob haen. Hoffwn ddeisebu am i Gymru roi’r un rheolau ar waith, gan fod llawer o rieni wedi ei chael yn anodd gofalu am blant ifanc ar eu pennau eu hunain yn ystod y cyfyngiadau. Bydd y cyfyngiadau newydd yn dod i rym ar 28 Rhagfyr, gan osod Cymru yn haen 4, sy’n golygu na fydd gan rieni plant ifanc unrhyw gefnogaeth. Dilynwch esiampl Lloegr i gefnogi rhieni plant ifanc.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gogledd Caerdydd
· Canol De Cymru